#

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-825

Teitl y ddeiseb: Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol

Geiriad y ddeiseb

Mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru, mae pobl yn anadlu lefelau llygredd aer sy’n anghyfreithlon ac sy’n niweidiol i’w hiechyd. Mae plant ymysg y rheiny sydd fwyaf diamddiffyn rhag llygredd aer. Mae eu hysgyfaint yn dal i dyfu, a gall aer llygredig arafu twf eu hysgyfaint, a golygu eu bod yn fwy tebygol o gael asthma, a phroblemau iechyd eraill, yn nes ymlaen yn eu bywyd.


Yn ôl cais rhyddid gwybodaeth gan y BLF i awdurdodau lleol yn 2017, gwelwyd nad oedd 68 y cant o ymatebwyr (15 o 22) yn monitro llygredd aer o fewn 10 metr o unrhyw un o’u hysgolion.

Yr ydym ni, sydd wedi arwyddo isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu bod pob Awdurdod Lleol yn monitro ansawdd yr aer y mae plant yn ei anadlu pan fyddant yn yr ysgol, fel bod gan y rheiny sy’n gwneud penderfyniadau y wybodaeth angenrheidiol i ymateb i lygredd aer
.

Nodyn: Nid oedd ymateb i’r ddeiseb gan Lywodraeth Cymru wedi dod i law ar adeg ysgrifennu’r papur briffio hwn.

Y cefndir

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, llygredd aer sy’n cyfrannu fwyaf at y baich clefydau y gellir eu priodoli i’r amgylchedd (PDF, 2.20MB). |Yn 2012, amcangyfrifodd Sefydliad Iechyd y Byd fod llygredd aer yn gyfrifol am 7 miliwn o farwolaethau cyn pryd yn fyd-eang.

Caiff ei gydnabod bod ansawdd aer gwael yn broblem sy’n effeithio ar y DU gyfan ac, ar 17 Mai, cyhoeddwyd bod y Comisiwn Ewropeaidd yn bwrw ymlaen ag achos yn erbyn Llywodraeth y DU, ynghyd ag aelod wladwriaethau eraill, am dorri cyfraith yr UE ym maes ansawdd aer. Mae’r Comisiwn wedi cyfeirio’r DU, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Hwngari a Romania at Lys Cyfiawnder Ewrop am dorri rheolau aer glân. 

Er bod hon yn broblem sy’n effeithio ar y DU gyfan, mae ansawdd yr aer mewn rhannau o Gymru ymhlith y gwaethaf ac mae’r Gwasanaeth Ymchwil wedi cyhoeddi papur briffio ar y pwnc yn ddiweddar. Mae lefelau mater gronynnol yn uwch yng Nghaerdydd a Phort Talbot nag ydynt yn Birmingham neu Fanceinion, ac yng Nghaerffili y mae’r ffordd fwyaf llygredig y tu allan i Lundain. Mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod llygredd aer yn cyfrannu at oddeutu 2,000 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru ac mae’r corff hwn wedi dweud bod hyn yn argyfwng iechyd cyhoeddus brys ac mai dim ond ysmygu sy’n fwy o argyfwng. Mae rhai ardaloedd wedi torri Rheoliadau’r UE ers blynyddoedd ac mae  Llywodraeth Cymru hefyd, yn y pen draw, yn cael ei herlyn.

Mae gwefan Ansawdd Aer Cymru yn datgan:

Mae ystadegau’r llywodraeth yn amcangyfrif bod llygredd aer yn y DU yn lleihau disgwyliad oes pawb 7-8 mis, gyda chost gysylltiedig o hyd at £20 biliwn y flwyddyn. 

Llygryddion

Y prif lygryddion aer sy'n effeithio ar iechyd yw nitrogen deuocsid (NO2 ), osôn (O3) a mater gronynnol bach arall (PM10 ar gyfer mater <10 μm o ran maint neu PM2.5 ar gyfer mater <2.5 μm). Daw’r llygryddion hyn o amrywiaeth o ffynonellau, ond mae’r mwyafrif helaeth yn gysylltiedig â llosgi tanwydd.  Mae adroddiad gan Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop yn nodi:

Road transport remains an important source of some of the most harmful air pollutants. In particular, road transport is responsible for significant contributions to emissions of nitrogen oxides (NOX) and particulate matter (PM). Pollution released by vehicles is particularly important, as emissions generally occur in areas where people live and work, such as cities and towns. Therefore, although emissions from the transport sector may not be as great in absolute terms as those from other sources, population exposure to the pollutants released by road transport can be higher than for sources such as power plants or large industrial facilities, which often tend to be located in remoter, less populated areas.

 

Monitro

Caiff data ansawdd aer eu casglu ar safleoedd monitro gweithredol ac anweithredol. Mae tua 40 o safleoedd monitro gweithredol yng Nghymru, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn Abertawe, Port Talbot, Caerdydd a Wrecsam. Mae’r rhain yn mesur llygredd aer yn barhaus ac mae’r wybodaeth i’w gweld ar-lein. Mae tua 1000 o safleoedd monitro anweithredol (sy’n mesur NO2 yn bennaf) sy’n darparu data dros gyfnodau hirach (bob mis, er enghraifft).

Caiff y data o safleoedd monitro gweithredol eu defnyddio i roi gwybod i’r cyhoedd os yw lefelau llygredd aer yn cynyddu’n sydyn, mewn ffordd a allai fod yn niweidiol, a hefyd i fesur i ba raddau y maent yn cydymffurfio â chyfarwyddebau’r UE.

Mae’r holl Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (AQMAs) yng Nghymru, ac eithrio Castell-nedd Port Talbot yn canolbwyntio ar NO2. Trafnidiaeth ar y ffyrdd yw prif ffynhonnell NO2 (PDF,5.16MB) yn 96% o’r Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer lle mae lefelau NO2 yn uwch na chyfyngiadau’r UE.

Yr effaith ar iechyd

Mewn adroddiad a gyhoeddodd yn ddiweddar, tynnodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (PDF, 2.36MB) sylw at y ffaith y gall llygredd aer effeithio’n anghymesur ar grwpiau agored i niwed yn y boblogaeth, gan gynnwys plant.

Mae ymchwil gan y British Lung Foundation yn awgrymu bod pobl sy’n anadlu aer llygredig am gyfnod hir yn fwy tebygol o ddatblygu cyflyrau ar yr ysgyfaint. Mae tystiolaeth dda i ddangos y gall llygredd aer yn yr awyr agored gyfrannu at ganser yr ysgyfaint,  ac mae cysylltiad rhwng anadlu aer llygredig am gyfnod hir ac asthma. Mae ymchwil hefyd yn dangos y gall llygredd aer effeithio ar y modd y mae ysgyfaint plant yn datblygu osydynt yn anadlu’r aer llygredig am gyfnod hir. Nid ydym yn deall effeithiau hirdymor llygredd aer yn llawn eto, ac mae pryder arbennig ynglŷn â phlant. Gan hynny, mae’n bosibl mai ymhell yn y dyfodol y gwelwn effeithiau llygredd aer heddiw.

Tanlinellodd y sefydliad yr isod hefyd: 

high concentrations of air pollution can …lead to respiratory problems - even in otherwise healthy children. Long-term exposure has been linked to worsening symptoms of conditions such as asthma, which is common in children. Diesel emissions have even been linked to an increased risk of lung cancer. And research has also shown that pollution levels increase at lower heights, potentially exposing children to greater concentrations than adults.

O ystyried eu maint, mae plant hefyd yn anadlu mwy o aer bob munud nag oedolion ac, os ydynt mewn bygi neu bram, maent ar yr un lefel â phibellau gwacáu’r ceir.

Ansawdd aer ger ysgolion

Mae’r elusen cyfraith amgylcheddol ClientEarth wedi dechrau ‘ymgyrch a deiseb o’r enw ‘posioned playgrounds’  ledled y DU. Maent yn ymgyrchu yn erbyn y lefelau anghyfreithlon a niweidiol o lygredd yn yr aer y mae plant yn ei anadlu wrth iddynt wrth iddynt deithio rhwng y cartref a’r ysgol. Fel rhan o’r ymgyrch, cynhyrchwyd offeryn, sydd ar gael i’r cyhoedd, sy’n dangos y pellter rhwng pob ysgol a ffyrdd lle mae’r lefelau NO2 yn uwch na’r terfyn cyfreithlon. Yn ôl y dadansoddiad, mae disgyblion mewn bron 1000 o ysgolion yn anadlu aer sydd â lefelau NO2 a all beryglu eu hiechyd. Mae’r offeryn yn dangos bod ysgolion yng Nghymru sy’n llai na 150m o ffordd sydd â llygredd anghyfreithlon - yng Nghasnewydd, Port Talbot ac mae naw ysgol yng Nghaerdydd.

Er nad yw’r offeryn yn gallu mesur llygredd aer yn fanwl ar fuarth yr ysgol, mae’r ymgyrch yn tynnu sylw at y ffaith bod plant hefyd yn anadlu aer llygredig a niweidiol wrth iddynt deithio rhwng eu cartref a’r ysgol.

Mae’r British Lung Foundation hefyd wedi codi ymwybyddiaeth o’r broblem drwy’r ymgyrch #DropOffSwitchOff. Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o’r canlynol:

Idling in cars, which means keeping the engine running while stationary when waiting to drop off or pick up your child from school, increases the amount of this toxic vehicle exhaust in the air.

Y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd

Canllawiau Ansawdd Aer Lleol

Ym mis Mehefin 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau polisi ar reoli ansawdd aer yn lleol ar gyfer awdurdodau lleol. Roedd y canllawiau’n cydnabod rôl ysgolion yn yr ymdrech i reoli ansawdd aer, gan dynnu sylw at:

gyfraniad sylweddol y cyfnod lle caiff plant eu hebrwng i’r ysgol ac oddi yno (“school run”) i lefelau o lygredd aer a thagfeydd traffig ar ffyrdd o fewn ardaloedd dalgylch ysgolion yn ystod oriau prysur...[a’r] potensial i ysgolion helpu i addysgu plant a rhieni ar y materion ynghylch ansawdd aer ac archwilio atebion posibl, fel rhannu ceir a pholisïau dim aros o gwmpas ar dir yr ysgol.

Mae’r canllawiau polisi’r nodi:

Dylai Awdurdodau Lleol ystyried ymgysylltu ag ysgolion fel rhan o’u gweithgareddau rheoli ansawdd aer lleol, er mwyn archwilio opsiynau ar gyfer lleihau effeithiau hebrwng plant i’r ysgol ac oddi yno ar gymdeithas yn gyffredinol a phlant yn arbennig, ac i addysgu plant ac oedolion ar ansawdd aer lleol yn fwy cyffredinol.

Her gyfreithiol

Ym mis Chwefror 2018, daeth yr Uchel Lys i’r casgliad bod Llywodraeth Cymru wedi methu cyrraedd targedau’r UE i leihau llygredd aer mewn achos a gyflwynodd y grŵp amgylcheddol ClientEarth. Yn ôl dyfarniad y Llys, a oedd hefyd yn cynnwys Llywodraeth y DU, rhoddwyd cyfrifoldeb cyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i baratoi cynllun drafft erbyn mis Ebrill 2018, a chynllun terfynol erbyn 31 Gorffennaf 2018, i wella ansawdd aer ar hyd a lled Cymru, yn unol â chyfraith yr UE.

Rhaglen Aer Glân Cymru

Ar 24 Ebrill, gwnaeth Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn yn cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu Rhaglen Aer Glân Cymru. “Ei nod gyntaf fydd cydymffurfio â rhwymedigaethau ansawdd aer deddfwriaethol presennol”. “Os bydd y rhaglen yn nodi bylchau yn yr ysgogiadau angenrheidiol er mwyn gwneud y gwelliannau gofynnol i ansawdd aer” meddai, bydd yn ceisio datblygu deddfwriaeth newydd i fynd i'r afael â hynny.

Yn ei datganiad, cyhoeddodd y Gweinidog hefyd nifer o fesurau eraill roedd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno.

§    Mae Polisi Cynllunio Cymru wedi'i ailysgrifennu a'i hailstrwythuro ar sail egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r fersiwn newydd yn cynnwys adran benodol ar ansawdd aer a seinwedd. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 18 Mai a disgwylir i’r Polisi newydd gael ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn;

§    Caiff Cynllun Aer Glân ei gyhoeddi i ymgynghori yn ei gylch erbyn diwedd 2018. Bydd yn esbonio’n fanwl sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i wella ansawdd aer;

§    Caiff Canolfan Monitro ac Asesu Ansawdd Aer ei sefydlu yn 2019;

§    Ar 25 Ebrill, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ynghylch Fframwaith Parth Aer Glân i Gymru. Y diffiniad o barth aer glân yw ardal ddaearyddol benodol lle caiff camau amrywiol eu cymryd i leihau’n sylweddol gysylltiad y cyhoedd a’r amgylchedd â llygryddion niweidiol a gludir yn yr aer;

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi yngynghoriad ynghylch ei chynllun atodol i gynllun y DU i fynd i'r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid ar ymylon ffyrdd yng Nghymru. Mae’r cynllun yn esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn lleihau crynodiadau NO2  o amgylch ffyrdd lle mae’r lefelau’n uwch na’r terfynau cyfreithlon;

§    Dyrannwyd dros £20 miliwn i Gronfa Ansawdd Aer hyd at 2021.

Y camau y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi’u cymryd

O ran lleoliadau monitro ansawdd aer, cafwyd datganiad yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mai 2017 gan Rebecca Evans, y Gweinidog ar y pryd dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd

Mae gwir angen i awdurdodau lleol fabwysiadu dull o weithredu sy’n seiliedig ar risg ar gyfer lleoli eu monitorau, a dylai hynny fod yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ganddynt o ran yr ardaloedd sy’n debygol o fod yn agored, neu ardaloedd lle mae pobl yn debygol o fod yn agored i’r lefelau uchaf o lygredd aer.

Cyflwynodd David Melding AC gwestiwn ysgrifenedig ar 23 Ebrill 2018 ynghylch pa weithdrefnau sydd ar waith i liniaru effeithiau llygredd aer ar blant mewn ysgolion a meithrinfeydd ledled Cymru? Yn ei hymateb, dywedodd Hannah Blythin, Gweinidog yr Amgylchedd, fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau polisi statudol ar reoli ansawdd aer ym mis Mehefin 2017. Dywedodd y Gweinidog:

policy guidance recognises schools, amongst others, as “sensitive receptor locations” and in doing so requires local authorities to give special consideration to the same when carrying out their duties of local air quality management

Tanlinellodd y Gweinidog hefyd ei bod wedi cytuno i ariannu cynllun i godi ymwybyddiaeth plant a newid eu hymddygiad mewn perthynas ag ansawdd aer, a hynny drwy’r rhaglen Ysgolion Eco. Cafwyd rhagor o wybodaeth am y prosiect yn ystod dadl drawsbleidiol yr Aelodau ar ansawdd aer, a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2018, i gyd-fynd â Diwrnod Aer Glân (21 Mehefin). Yn ystod y ddadl, cafwyd y wybodaeth a ganlyn gan y Gweinidog:

Anfonwyd 10 tiwb trylediad i'r ysgolion sy'n ymwneud â'r cynllun, ac fe'u gwahoddir i osod y rhain mewn lleoliadau amrywiol o amgylch yr ysgol. Roedd yr enghreifftiau a welais heddiw wrth y prif gatiau, wrth y maes parcio, ac roedd un yr holl ffordd drwodd, ar draws y cae wrth y coed, ond hefyd roedd un wrth ymyl ffordd brysur sy'n mynd heibio i ochr yr ysgol. Anfonir y canlyniadau wedyn i gael eu dadansoddi a byddant yn dod yn ôl i'r ysgolion a gall y plant ddatblygu eu hymgyrchoedd eu hunain o ran sut i ymdrin â hyn a sut y gallant annog yr oedolion o amgylch yr ysgol i ystyried hyn... Roedd y prosiect yn cyflwyno disgyblion i achosion ac effeithiau llygredd aer, a gwybodaeth ynglŷn â sut y gallant wneud y newidiadau hyn.

Ar 25 Mai, cyflwynodd Simon Thomas AC gwestiwn ysgrifenedig am offer monitro ansawdd aer:  sef:

Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i'w gwneud yn ofynnol bod offer monitro ansawdd aer yn cael ei osod yn adeiladau'r holl ysgolion sy'n derbyn cyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif?

Yn ei hymateb, dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:

The 21st Century Schools and Education Programme is delivered in partnership with local authorities, who may choose to install air quality monitoring equipment if they consider it appropriate.